Yn aml, yr hynafol yw rhagflaenydd modernrwydd. Mae’r ystâd, sy’n llawn hanes a threftadaeth, wedi bod yn y teulu ers canrifoedd. Mae wedi’i chynnal a’i chadw’n ofalus, a’i hadfer i gynrychioli ei hanes cain.
Coethder yw
Deall a meithrin ysbryd y Plas oedd y man cychwyn. Roeddem am gyfleu naws y tŷ teuluol Jacobeaidd hwn gan ddefnyddio technegau gorau’r 21ain Ganrif.
Mae plastr calch, peintiau mwynol yn lliwiau papur, esgyrn a chreigiau, anrhydeddu’r pren a’r cerrig a dathlu’r golau, a dileu popeth heblaw’r hanfodion wedi creu mannau pur a syml.
Natur yn gyntaf
Eisteddai’r Plas yn ei chwm cudd ei hun - mae’r Parc yn ymestyn i fryniau Eryri, a’r mynyddoedd gyda’u llynnoedd lleuadol, eu cerrig a’u ffynhonnau cysegredig yn disgleirio. Crwydrai’r gerddi ar hyd y bryniau coedwigog. Clywir cân yr adar wrth i’r rhododendronau flodeuo a lliwio’r lle. ‘Meddwl gwyrdd mewn arlliw gwyrdd’, meddai Andrew Marvell.
Roeddem yn awyddus i ryddhau enaid mewnol y Plas, a gadael i’r elfennau y tu mewn iddi gael lle. Mae golau craidd byd Glyn Cywarch yn werth ei weld mewn ystafelloedd gwely wedi’u haddurno’n syml, gydag ystafelloedd ymolchi’n cyfleu moethusrwydd y 1930au. Mae lleoedd tân yr Ystafell Hir a'r Ystafell Fwyta’n ganolbwynt, heb anghofio’r llawr sment llathredig. Goleuir y grisiau derw gan ganhwyllyr dail derw efydd.
Sarah Husband sydd wedi adfer ac ail-ddehongli’r gerddi, gan sicrhau awgrym pendant o blannu’r 17fed Ganrif - ceir taith gerdded dan goed ywen sydd yn arwain at lannerch o glychau’r gog, coedydd cnau a ffrwythau wedi’u plannu mewn dôl blodau gwyllt, mwsogl a llechi rhedynog dan gysgod y Plas, a thaith gerdded blodau’r enfys yn arwain at y Porthdy. Mae deildai â llwyni persawrus yn creu hud a lledrith i ddarganfod - gardd rosod â llifddor dwr o’r rhaeadr. Mae hyn oll yn gadarn yng nghanol golygfa godidog o’r mynyddoedd, y môr a’r awyr.
"Drwy hyn, mae’r meddwl di-bleser bron, Yn dechrau newid i fod yn llon; Y meddwl yn faith fel moroedd yn dod o hyd i’w debyg, A chreu bydoedd a moroedd drwy ddychymyg; Fan hyn, mae’n fytholwyrdd Meddwl gwyrdd mewn arlliw gwyrdd. "
A. Marvell
Dod o hyd i ni
Glyn Cywarch, Talsarnau, Gwynedd, LL47 6TE
Lleolir Glyn ger y B4573 rhwng tref Harlech a phentref Talsarnau.