Rydym yn credu’n fawr na fyddwn fyth wir yn berchen ar yr adeiladau na’r tir, ond yn hytrach yn eu gwarchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Oherwydd hyn, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i adael yr adeiladau mewn gwell cyflwr na phan y gwnaethom eu meddiannu. Mae ein rhaglen o adfer ac adnewyddu asedau treftadaeth, adeiladau a nodweddion cymeriad unigryw megis waliau cerrig sych sydd gydnaws â’r ardal yn cyfleu hyn.
Mae ffermio mynydd ac ucheldir wedi bod yn elfen hanfodol ar yr Ystâd erioed, a bydd yn parhau i fod. Gyda’r diwydiant amaethyddol yng nghanol un o’r trawsnewidiadau cyllid mwyaf radical ers cenedlaethau, a gofal am yr amgylchedd yn bwysicach nag erioed, mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio ar yr Ystâd drwy’r broses hon.
Wedi’i leoli’n llwyr ym Mharc Cenedlaethol Eryri a ger Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, Castell Harlech a Thirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru, mae gofalu am ein hamgylchiadau’n hanfodol i bopeth a wnawn. Yn sail i lawer o’n penderfyniadau mae symud oddi wrth tanwyddau ffosil, rheoli’r tir yn weithredol er mwyn rhoi hwb i fioamrywiaeth, a hyrwyddo hwsmonaeth anifeiliaid sy’n canolbwyntio ar eu lles.
Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, a Chysylltiadau Cymunedol
Mae’r Gymraeg yn fyw, ac yn rhan hanfodol o ddiwylliant Cymru. Rydym yn falch iawn bod yr Ystâd wedi’i lleoli mewn ardal lle’r Gymraeg yw’r iaith gyntaf, yn ysgrifenedig ac ar lafar. Fel man geni Ellis Wynne, offeiriad ac awdur, ffigur hanfodol yn llenyddiaeth Gymraeg, mae gan yr Ystâd ran bwysig i’w chwarae o ran anrhydeddu’r dreftadaeth hon a hyrwyddo’r Gymraeg. Fe wnawn hyn drwy feithrin a datblygu cysylltiadau â’r gymuned leol, a sicrhau bod llenyddiaeth yr Ystâd, yr arwyddion a’r cyfathrebu ar bapur a digidol ar gael yn ddwyieithog.
‘Dyw lle yn ddim heb ei bobl, a byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau bod aelodau staff yr Ystâd, ei thrigolion, contractwyr a chyflenwyr yn cael eu clywed, eu gwerthfawrogi a’u cefnogi. Drwy hyn, byddwn yn meithrin partneriaethau hirsefydlog.
Dod o hyd i ni
Glyn Cywarch, Talsarnau, Gwynedd, LL47 6TE
Lleolir Glyn ger y B4573 rhwng tref Harlech a phentref Talsarnau.